Rhybudd Preifatrwydd
Mae Cymrugyfan yn casglu data personol er mwyn i ni allu anfon gwybodaeth atoch am blannu a chryfhau eglwysi yng Nghymru. Rydym yn prosesu'r data'n gyfreithlon ar sail ein diddordeb gwirioneddol yn hyrwyddo bwriadau Cymrugyfan, sy'n elusen cofrestredig.
Gall y data rydym yn ei gasglu gynnwys eich enw, cyfeiriad cartref a/neu ebost, rhifau ffôn ac aelodaeth eglwysig. Mae'n bosibl y byddwn yn cofnodi gwybodaeth a gawn gennych wrth i chi gofrestru ar gyfer digwyddiad, pan ddywedwch wrthym eich bod wedi gweddïo, rhoi cyfraniad neu gysylltu â ni mewn rhyw ffordd arall.
Fel arfer byddwn yn cysylltu â chi drwy ebost ond gallem hefyd ddefnyddio ffordd arall o gysylltu.
Ni fyddwn yn rhannu'ch data gydag unrhyw sefydliad arall.
Os gofynnwch i ni beidio â chysylltu â chi, yna byddwn yn peidio â chysylltu. Mae ein negeseuon ebost yn cynnwys cyfarwyddiadau ar ddad-danysgrifio.
Byddwn yn diwygio'n cofnodion pan roddwch wybodaeth newydd neu wybodaeth ddiwygiedig i ni.
Mae ein gwefannau’n rhoi ffeiliau bychain o’r enw cwcis ar eich cyfrifiadur. Nid ydym yn darllen nac yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol drwy cwcis.