Login
 Search  
English

CYRSIAU HYFFORDDI:

Ysgol DAWN - Datblygu Arweinwyr i Weinidogaethau Newydd
Cwrs rhyngenwadol er mwyn hyfforddi arweinwyr a gweithwyr Cristnogol ar gyfer yr eglwysi Cymraeg.  Mae'r cwrs, a leolir yn Llansannan, Conwy, o dan arweiniad Parch. Meirion Morris BD, yn cynnwys elfen o leoli'r rhai a gaiff eu hyfforddi gydag arweinwyr eglwysi trwy Gymru.  Gan ddechrau ym mis Medi, mae'r cwrs yn un llawn amser yn para am flwyddyn gyfan, ond gellir cymryd elfennau o'r cwrs ar wahân.  Gellir ymgymryd â'r cwrs yn rhan amser neu trwy gyfrwng dysgu pell.  Bydd y pwyslais ar hyfforddiant ymarferol ynghanol y gwaith ac fe gaiff hwn ei gefnogi gan ddysgu academaidd.  Gallwch ddarllen am y weledigaeth ar gyfer y cwrs yn y fan yma.  Am fwy o wybodaeth am y cwrs ac am fanylion am sut i wneud cais, cysylltwch â  .

Canolfan Hyfforddi ‘Kingdom First’, Ystradgynlais
Mae CHKF yn bodoli er mwyn hyfforddi dynion a merched ifanc ym maes Plannu Eglwysi, Efengylu, Gwaith Cenhadol a Tîm Apostolaidd.  Nid ysgol Feiblaidd yw fel y cyfryw, ond man lle gellir sylweddoli a dysgu’r egwyddorion a’r ffyrdd o weithio sydd yn gysylltiedig â’r gweinidogaethau hyn yn benodol.  Meddylfryd y deyrnas sydd gan CHKF.  Nid yw’n hyrwyddo un enwad, ond mae pwyslais Pentecostalaidd/garismataidd yno.

Am ragor o wybodaeth ac ymholiadau am brisiau cyrsiau etc. cysylltwch â:
Canolfan Hyfforddi Kingdom First
Uned 19, Parc Menter Ynyscedwyn
Ystradgynlais
Abertawe  SA9 1DT
Ffôn:  01639 845200

Angen Eglwys Genhadol yw Arweinyddiaeth Genhadol
Cwrs hyfforddi ymarferol a fydd yn eich cynorthwyo i ddarganfod ffyrdd o fod yn eglwys yn yr 21G.  Gall fyfyrwyr ddewis dilyn opsiynau wedi eu achredu (MA) neu heb eu hachredu.
Darperir y cwrs gan Going Public/Connect mewn partneriaeth â Together in Mission.

“Mae hon yn fenter amserol yn wyneb yr angen amlwg a’r diddordeb gwirioneddol mewn plannu eglwysi trwy Gymru” (Elfed Godding, Ysg Cyff CE Cymru).

Am ragor o wyodaeth am amseroedd, prisiau a lleoliadau etc. cysylltwch â:
Canolfan Eglwys Glenwood
Circle Way West
Caerdydd  CF23 6UW
Ffôn:  02920 337880
Ebost: 

 

YMESTYN ALLAN I’CH CYMUNED:

Cyrsiau meithrin plant ... ag eglwysi
Mae yna lawer o rieni sydd mewn byd yn ymgodymu â her magu plant yn y byd anodd sydd ohoni.  Fe allwn fod â rhan bwysig i’w chwarae fel eglwysi wrth fod ar gael a chynnig cymorth i rieni.  Mae llawer o eglwysi’n rhedeg grwpiau i rieni a’u plant neu ddarpariaeth ysgol feithrin.  Mae cwrs ar fagu plant yn ffordd dda o ddatblygu ar y gwaith hwn.  Fe brofodd sesiwn ar Werthoedd Teuluol a Datgblygiad Ysbrydol yn boblogaidd iawn.  Dyma oedd sylw rhai, ‘hon oedd un o sesiynau mwyaf defnyddiol y cwrs’, ‘Mae angen gwybod mwy arnaf i’ a ‘Ga’ i ddod â ‘mhlant dydd Sul?’

Mae Liz Ollerton yn fodlon iawn rhannu ei phrofiadau a sgwrsio gydag unrhyw un sydd yn ystyried arwain cwrs lle bo hynny’n addas, er mwyn cynnig awgrymiadau ac ateb cwestiynau.  Gallwch gysylltu â hi trwy ebost  neu trwy ffonio 02920 752226.  Gallwch hefyd lawrlwytho taflen gyda mwy o wybodaeth arni: Parenting courses ... and churches (Word, 207CB).

 


Adref | Gwybodaeth | Eglwysi | Gweddïwch | Digwyddiadau | Adnoddau | Cefnogwch ni | Cysylltwch