Login
 Search  
English

Y mae angen eich cefnogaeth arnom er mwyn cyflawni’r gwaith y credwn fod Duw yn ei roi inni.

Yr olygfa o Gader Idris

A wnewch chi:

  • Weddïo trosom
  • Ddweud wrth arweinydd eich eglwys ac eraill amdanom
  • Ddweud wrthym ni os gallwch chi fod yn help i gefnogi eglwys sy’n cael ei phlannu
  • Ddweud wrthym os oes angen cymorth arnoch chi
  • Gefnogi plannu eglwysi’n ariannol trwy anfon siec

Byddem yn hoffi parhau i rannu gwybodaeth gyda chi am ein gwaith.  Cliciwch yma er mwyn cofrestru ar gyfer diweddariadau.

Ydych chi’n arweinydd eglwys?  Cliciwch yma er wmyn gadael inni wybod os hoffech fod yn rhan o Cymrugyfan, unai fel cyfranwr neu dderbynnydd cymorth.

Yr ydym yn gobeithio y bydd pob eglwys yng Nghymru yn rhoi ystyriaeth i wneud cyfraniad sylweddol er mwyn ail-efengyleiddio ein gwlad fel rhan o’i chenhadaeth ehangach.

Gobeithiwn y bydd pob eglwys yn cyfrannu at eglwysi newydd neu eraill sydd angen eu cryfhau trwy roi:

  • Cyfran o amser yr arweinyddion y maent yn eu cynnal, er mwyn teithio a chynorthwyo.  E.e. diwrnod ym mhob mis er mwyn cynghori, hyfforddi, pregethu, cefnogi, etc.
  • Dîm, neu aelodau o dîm, o blith yr eglwys er mwyn treulio wythnos bob blwyddyn mewn rhyw fath o genhadaeth gydag eglwysi cysylltiol.
  • Cyfran o’u hincwm er wmyn cynnal planwyr eglwysi, rhai sy’n efengylu, gweinidogaeth ieuenctid, etc.  Ac i gynnig cymorth gyda’r costau anorfod a ddaw o’u cynnal.

Adref | Gwybodaeth | Eglwysi | Gweddïwch | Digwyddiadau | Adnoddau | Cefnogwch ni | Cysylltwch