English
Byddem yn gwerthfawrogi eich gweddïau dros y gwaith o blannu a chryfhau eglwysi yng Nghymru. Gallwch lawrlwytho copi o'r pwyntiau gweddi hyn ar gyfer eu defnyddio mewn gwasanaeth neu gyfarfod gweddi yn eich eglwys.
Gweddïwch dros blannu Eglwys newydd Cymraeg ei hiaith yn Abertawe. Prosiect Undeb y Bedyddwyr yw hwn, wedi ei gefnogi gan Gymdeithas Gorllewin Morgannwg a Chymrugyfan.
Y Plannwr Eglwysi Derek Rees sydd yn arwain y fenter ac fe fydd ganddo grŵp craidd o’i gwmpas i roi help, cyngor a chalondid.
- Gweddïwch dros y prosiect yn y misoedd cynnar, petrusgar hyn - wrth ymgymryd ag ymchwil, creu perthnasau newydd ac wrth i fomentwm y prosiect gynyddu.
- Gweddïwch dros Derek wrth iddo ymgartrefu mewn cymdeithas newydd a rhwydweithio er mwyn datblygu perthnasau newydd.
- Gweddïwch hefyd dros y rhai o’r Gymdeithas, UBC a Chymrugyfan a fydd yn gweithio ochr yn ochr gyda Derek.
- Gweddïwch y bydd Duw yn defnyddio’r fenter newydd hon er mwyn cyrraedd siaradwyr Cymraeg sydd byth wedi ymateb i Grist.
Am fwy o fanylion gweler www.abertawe.info.
Diolch ichi am weddïo!