English
Byddem yn gwerthfawrogi eich gweddïau dros y gwaith o blannu a chryfhau eglwysi yng Nghymru.
- Gweddïwch dros y trefi ar hyd a leld Cymru ble mae lawer yn gweddïo, cynllunio a gobeithio am weld rhywbeth newydd.
- Gweddïwch dros y gwaith o gryfhau eglwysi efengylaidd eu bryd mewn ardaloedd Cymraeg. Fe gychwynodd y cwrs hyfforddi newydd ym Medi '07 er mwyn hyfforddi arweinyddion eglwysig a gewithwyr Cristnogol Cymraeg eu hiaith. Gweddïwch dros drefniadau ymarferol y cynllun hwn, am y bobl sydd wedi ymrwymo eu hunain i'r cwrs ac yn ei ddilyn, neu yn ystyried gwneud hynny ac y bydd yn profi i fod yn effeithiol iawn wrth gryfhau tystiolaeth Gristnogol trwy gyfrwng y Gymraeg. Gallwch ddarllen mwy am y cwrs ar ein tudalen Cyrsiau.
- Gweddïwch dros ein Grwp Gwaith o blanwyr eglwysi wrth iddyn nhw ymateb i anghenion y gwahanol rannau o Gymru am dystiolaeth Gristnogol fywiol. Gallwch ddod o hyd i'w henwau ar ein tudalen Pwy ydym ni.
Diolch ichi am weddïo!