English
Beth rydym yn ei wneud
Byddwn yn rhwydweithio i blannu eglwysi newydd neu i gryfhau rhai sydd yn bod eisoes, yn ôl y galw. Teimlwn yr Ysbryd Glân yn gweithio drwy y rhwydweithiau efengylaidd, ac yn pwyso arnom i weithredu yn awr i symud ymlaen ar fyrder.
Mae Cymrugyfan yn edrych i feithrin cyd-weithrediad ymhlith pobl efengylaidd, er hyrwyddo plannu eglwysi newydd a chryfhau eglwysi presennol, a fydd yn gweld cynyddu nifer yr eglwysi hyfyw yng Nghymru. Yr ydym yn gweithio gyda rhwydweithiau a grwpiau o eglwysi sydd yn rhannu ein gwerthoedd a’n nodweddion diwinyddol, boed y rheiny o blith yr enwadau Anglicanaidd, Bedyddwyr, Diwygiedig, Carismataidd, cyfrwng Cymraeg neu’n annibynnol o unrhyw enwad. Nid yw hi’n fwriad gennym i fod yn ffurfio enwad newydd na chorff o eglwysi ein hunain.