|
Gweddïwch
Byddem yn gwerthfawrogi eich gweddïau dros y gwaith o blannu a chryfhau eglwysi yng Nghymru. Gallwch lawrlwytho copi o'r pwyntiau gweddi hyn ar gyfer eu defnyddio mewn gwasanaeth neu gyfarfod gweddi yn eich eglwys.
A wnewch chi weddïo yn gyffredinol:
- Am weithrediad a datblygiad effeithiol i’r tîm arweinyddol sydd yn cynrychioli amrediad gweinidogaethau efengylaidd, rhwydweithiau ac eglwysi yn Nghymru
- Ar i ni allu gweithredu ar geisiadau am gymorth i eglwysi lleol a ddaeth yn sgil ein cynadleddau
- David a Liz Ollerton a’r teulu wrth i David fynd trwy driniaeth cemotherapi yn ystod yr Hydref. Bydd David yn derbyn y driniaeth rhag ofn, gan obeithio gweithio fel arfer a dal i deithio y rhan fwyaf o’r amser.
A wnewch chi weddïo yn benodol dros Eglwys y Porthladd, Pwllheli:
Heuwyd yr Eglwys yn hwyr yn Hydref 2008 gan Simon a Jaquie Rose a’u teulu gyda nifer fechan o ffrindiau o Eglwys Bentecostalaidd Caernarfon. Ar ôl cyd-addoli am dri mis, gan weddïo ar i Dduw drigo ym mawl ei bobl, fe ddechreuodd y gynulleidfa ymestyn llaw i’r gymuned trwy peth gwaith stryd ac fe arweiniodd Duw nhw at bobl penodol.
Fe dyfodd yr eglwys i tua pymtheg o bobl. Cryfhaodd cynhaliaeth o ffrindiau agos ac fe ddechreuodd “tîm” arweinyddol i ddatblygu a oedd yn cynnwys Simon, Jaquie a Sian Rees, un o’r arweinwyr o Eglwys Bentecostalaidd Caernarfon. Fel arfer yn awr mae tua 25 yn mynychu ar gyfartaledd gyda mwy na 40 ar rai achlysuron arbennig.
Diolchwch:
- Mae pâr ifanc yn awr yn rhedeg cwrs Alffa ac wedi ffurfio grwp addoli
- Mae bywydau yn cael eu newid trwy i bobl yn ymroi eu hunain i Dduw
- Fe gafodd llanc (14) brofiad gyda Duw wedi bedyddiad ei fam… fe ddaeth i nabod Duw ei hun yn ystod y nos
- Tair wythnos yn gynharach cafodd menyw hŷn droedigaeth! Moliant i Dduw.
Gweddïwch:
- Y bydd perthnasau gydag eglwysi eraill (sydd yn strategol ar gyfer cyd-gynhaliaeth a thyfiant y Deyrnas) yn parhau i gael eu cryfhau
- Y bydd mwy o bobl yn cael eu hachub
- Presenoldeb Iesu y gellir ei synhwyro yn y cyrddau
- Y bydd y bobl sydd i fod gyda ni yn dod
- Am safle arall i gwrdd.
Diolch ichi am weddïo!
|