Am newyddion...

Gweddïwch

Byddem yn gwerthfawrogi eich gweddïau dros y gwaith o blannu a chryfhau eglwysi yng Nghymru.  Gallwch lawrlwytho copi o'r pwyntiau gweddi hyn ar gyfer eu defnyddio mewn gwasanaeth neu gyfarfod gweddi yn eich eglwys.

Os gwelwch yn dda gweddïwch dros y lleoedd a'r mentrau hyn:

1. Gweddïwch dros Gymru ac y daw pobl yn Gristnogion a chael eich huno ag eglwys fywiog effeithiol yn enwedig yn: Brynaman / GCG, Cae Newydd, Castell Newydd, Emlyn / Llandysul, Conwy, Harlech, Hendygwyn / Sanclêr, Llanerchymedd, Porthmadog, Talgarth, Y Pîl.

2. Gweddïwch dros ficeriaid efengylaidd yr Eglwys yng Nghymru sydd wrthi’n symud, neu eisoes wedi symud i ardaloedd anghenus:

Martin Snellgrove - Corwen
David Brownridge - Blaenau Ffestiniog
Peter Jones - Borth a Thalybont
Matthew Baynham - Cei Newydd
Richard Wood - Aberporth
John Bennett - Aberteifi

Os ydych yn ymwybodol o unrhywun arall ... gadewch i ni wybod!

3. Gweddïwch dros yr eglwysi a'r enwadau sy'n ceisio trefnu strategaeth i 'Gymru-gyfan.' Yn y gorffennol mae rhai eglwysi Bedyddiedig, Elim, Cymanfa Duw (A0G) ac eglwysi eraill wedi cael eu harolygu a'u cysylltu ag eglwysi eraill yn eu grŵp yn Lloegr yn hytrach na Chymru. Gweddïwch dros ddoethineb a synnwyr newydd o weledigaeth unedig a fydd yn adnoddi ac annog eglwysi unig, yn enwedig yng ngogledd Cymru.

4. Mae cynlluniau ar y gweill i blannu sawl eglwys trwy gymoedd y de. Gweddïwch am y bobl iawn, yr agwedd gywir, adnoddau a chanlyniadau da.

5. Mae'r cwrs Ble yn y byd mae Cymru?, sy'n ein helpu i ddeall y cyd-destunau amrywiol sydd i waith yr eglwys yng Nghymru, wedi ei gynnal mewn chwech lleoliad eisoes.  Gweddïwch dros ganlyniadau da a chynnydd mewn dylanwad.

Diolch ichi am weddïo!

 


 

Cyfarfodydd Gweddi MEC ar gyfer Arweinwyr Cristnogol - ADNEWYDDA, 'O Dduw, gweithia eto'

Anogir arweinwyr o bob cwr o Dde Cymru i gwrdd er mwyn gweddïo dros weld gwaith llawnach gan yr Ysbryd yng Nghymru.  Cynhelir y cyfarfodydd yng Nghapel Efengylaidd Bethlehem, Ffordd Ysuthan, Sandfields, Aberafan, Port Talbot, SA12 6NE.  Bydd y cyfarfodydd yn dechrau am 9.30 y.b. - 12.30 y.h., gyda phaned am 10.45 y.b., ar ddyddiau Iau: Ebrill 18fed, Mehefin 6ed, Medi 12fed a Thachwedd 7fed.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Ian Parry ar 07956 895818, neu swyddfa MEC ar 01656 655886.

Cysylltwch

Cyfeiriad:
Cymrugyfan
BP 4287
CAERDYDD
CF14 8GS
Ffôn:
0845 337 0823
Ebost:
This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.