Cefnogwch ni
Y mae angen eich cefnogaeth arnom er mwyn cyflawni’r gwaith y credwn fod Duw yn ei roi inni.
A wnewch chi:
- Weddïo trosom
- Ddweud wrth arweinydd eich eglwys ac eraill amdanom
- Ddweud wrthym ni os gallwch chi fod yn help i gefnogi eglwys sy’n cael ei phlannu
- Ddweud wrthym os oes angen cymorth arnoch chi
- Gefnogi plannu eglwysi’n ariannol trwy anfon siec.
Byddem yn hoffi parhau i rannu gwybodaeth gyda chi am ein gwaith. Cliciwch yma er mwyn cofrestru ar gyfer diweddariadau.
Yr ydym yn gobeithio y bydd pob eglwys yng Nghymru yn rhoi ystyriaeth i wneud cyfraniad sylweddol er mwyn ail-efengyleiddio ein gwlad fel rhan o’i chenhadaeth ehangach.
Gobeithiwn y bydd pob eglwys yn cyfrannu at eglwysi newydd neu eraill sydd angen eu cryfhau trwy roi:
- Cyfran o amser yr arweinyddion y maent yn eu cynnal, er mwyn teithio a chynorthwyo. E.e. diwrnod ym mhob mis er mwyn cynghori, hyfforddi, pregethu, cefnogi, etc.
- Dîm, neu aelodau o dîm, o blith yr eglwys er mwyn treulio wythnos bob blwyddyn mewn rhyw fath o genhadaeth gydag eglwysi cysylltiol.
- Cyfran o’u hincwm er mwyn cynnal planwyr eglwysi, rhai sy’n efengylu, gweinidogaeth ieuenctid, etc. Ac i gynnig cymorth gyda’r costau anorfod a ddaw o’u cynnal.
Yn ogystal, rydym yn falch o dderbyn rhoddion i waith Cymrugyfan oddi wrth unigolion lle nad yw hyn yn tynnu ar eu cefnogaeth i'w heglwys leol. Gallwch wneud cyfraniad ar-lein trwy wefan Stewardship, sef give.net. Os gwelwch yn dda, cliciwch yma i gyfrannu i Cymrugyfan. Gallwch hefyd anfon siec (taladwy i Cymrugyfan) at y cyfeiriad islaw. Os ydych am i ni dderbyn Rhodd Cymorth o'ch siec os gwelwch yn dda llawrlwythwch y ffurflen yma. Diolch yn fawr.