Diwrnod i Gymru 2013
‘Dani eisiau annog capeli i weddïo dros Gymru drwy gydol y flwyddyn, gan ganolbwyntio yn arbennig ar hyn o gwmpas Dydd Gŵyl Ddewi.
Awgrymiadau ar gyfer eich ‘Diwrnod i Gymru’
Awgrymwn eich bod chi’n neilltuo 5-10 munud yn eich prif gwrdd Sul er mwyn rhoi:
Codi ymwybyddiaeth o’r angen
Treulio ychydig amser i esbonio’r sialensau sy’n ein hwynebu mewn ardaloedd heb eglwysi byw. Esbonio’r anghenion penodol sydd mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith, lle mae traddodiad a ffurfioldeb yn parhau mewn grym, mannau lle mae cynulleidfaoedd yn aml yn oedrannus ac yn lleihau’n gyflym.
Gwelwch ein tudalen Weddi am wybodaeth benodol. Gallwch lawrlwytho copi yma. Yn ogystal, gallwch ddod o hyd i ddolenni i straeon calonogol o bob cwr o Gymru ar ein tudalen Fideos.
Amser o weddi gyda’ch gilydd
Gweddïwch dros Gymru yn gyffredinol, anogwch bobl i weddïo dros un neu ddau o sefyllfaoedd penodol sy’n berthnasol i’ch eglwys, a thros unrhyw fenter yr ydych eisoes yn gysylltiedig.
Camau pellach
Efallai gallech gychwyn trafodaeth trwy’r grwpiau bach yn eich eglwys am y modd y gall eglwysi ag unigolion ddod yn rhan o helpu a chefnogi sefyllfaoedd eraill mewn rhannau eraill o Gymru.
Mae Cymrugyfan wedi datblygu sesiynau hyfforddi newydd i’n helpu i gyd-destunoli ein heglwysi yng ngoleuni diwylliant a hanes Cymru, a’r sialensiau sy’n ein hwynebu heddiw: Ble yn y byd mae Cymru? Os gwelwch yn dda trafodwch a gweddïwch am ymwneud eich eglwys a’r materion hyn. Am fanylion pellach gweler tudalen Hyfforddiant Cymrugyfan.